Ein cyf/Our ref MA-P/KW/0000/18

 

Russell George AC


Cadeirydd

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau


4 Ionawr 2019

 

Annwyl Russell,

 

Diolch am y gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor fel rhan o’i ymchwiliad i Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru. Mae’r llythyr hwn yn ymateb i’ch cais am wybodaeth cyn sesiwn 9 Ionawr. Amgaeaf drosolwg o bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Ymchwil ac Arloesi Cymru.

 

Edrychaf ymlaen at drafod y pwnc yn fanylach gyda’r Pwyllgor ar 9 Ionawr.

 

Yn gywir

 

 

 

 

 

 

Kirsty Williams AC/AM

Y Gweinidog Addysg

Minister for Education

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Papur Tystiolaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

 

Diben y papur hwn yw darparu tystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, cyn y Bil Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol arfaethedig. Mae’r dystiolaeth isod yn ymateb i agenda’r Pwyllgor.

 

Tystiolaeth

1.            Cyllid ar gyfer gweithgarwch ymchwil ac arloesi, gyda diddordeb yn:

 

i.     Y cydbwysedd rhwng cyllid ar gyfer ymchwil sylfaenol (na fydd yn cael unrhyw werth masnachol yn syth) a chyllid ar gyfer ymchwil gymhwysol a allai gael effaith yn syth o ran arloesi.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn diffinio ymchwil a datblygu fel “creative and systematic work undertaken in order to increase the stock of knowledge – including knowledge of humankind, culture and society – and to devise new applications of available knowledge[1]. Gall ymchwil a datblygu greu gwybodaeth newydd drwy ddarganfod, ddyfeisio, arbrofi ac arloesi, yn ogystal â metaddadansoddi a dadansoddi astudiaethau blaenorol cronedig. Gall arloesedd fod ar ffurf cynnyrch, proses neu fodel busnes a bod yn gynyddol neu’n fwy radical.

 

Mae dadansoddiad confensiynol o weithgarwch ymchwil a datblygu’n dueddol o wahaniaethu rhwng gwaith ymchwil pur a gwaith ymchwil cymhwysol a wneir mewn labordy prifysgol yn aml ac arloesi a masnacheiddio a wneir gan gwmnïau. Un ffordd o wahaniaethu rhwng y gweithgareddau hyn yw ystyried datblygiadau mewn lefelau neu gamau datblygu. Defnyddir y dull hwn yn aml ym maes peirianneg, datblygu meddalwedd, ymchwil feddygol a masnacheiddio cynhyrchion neu wasanaethau newydd i feincnodi datblygiad, adolygu cynnydd ac ystyried penderfyniadau cyllido (gweler Ffigur 1).

 

Mae sylwebaeth ddiweddar ar y broses ymchwil a datblygu mewn amryw o ddiwydiannau ar sail ystyriaeth o brosiectau blaenorol wedi amau pa mor briodol yw’r broses linol a awgrymir gan fodelau datblygu sy’n seiliedig ar lefelau a chamau. Yn y “byd go iawn” awgrymwyd nad yw datblygiad mor daclus ag y mae’r modelau hyn yn ei awgrymu ac yn aml iawn mae’n gweithio mewn modd ailadroddol gyda llawer o stopio a chychwyn, dychwelyd i gamau cynharach a neidio yn rhan o’r broses. Yn wir, mewn rhai achosion gall hyd yn oed weithio am yn ôl o ddefnyddio i greu’r syniad gwreiddiol[2].

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 1: Lefelau Parodrwydd Technoleg, Camau Clinigol a Datblygu Gwasanaethau Cynhyrchion

Lefel Parodrwydd Technoleg (TRL)

Disgrifiad TRL Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)

 

Camau profi cyffuriau a chyfarpar clinigol (Cyngor Ymchwil Feddygol)

Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau (Yn y farchnad)

 

1

Dilyn egwyddorion sylfaenol

 

Ymchwil Sylfaenol a Chymhwysol

Creu syniad

 

2

Ffurfio cysyniad technoleg

Sgrinio syniad

 

3

Prawf arbrofol o gysyniad

Datblygu a phrofi cysyniad

 

Datblygu

4

Dilysu’r dechnoleg yn y Labordy

Datblygu strategaeth farchnata

 

5

Dilysu’r dechnoleg mewn amgylchedd perthnasol

Dadansoddi busnes

Gwerthusiad Clinigol a Chymeradwyaeth Reoliadol

6

Arddangos y dechnoleg mewn amgylchedd perthnasol

Datblygu cynhyrchion

 

7

Prototeip system mewn amgylchedd gweithredol

Marchnata Prawf

 

8

Cwblhau a chymhwyso system

Masnacheiddio lleol

 

9

Profi’r system go iawn mewn amgylchedd gweithredol

Masnacheiddio rhyngwladol

 

10.

 

Gwerthuso ar ôl lansio

Gwerthuso ar ôl lansio

 

 

Yn y gorffennol, mae cyllid ymchwil Llywodraeth y DU wedi tueddu i osgoi cyllido camau olaf gwaith datblygu a masnacheiddio cynhyrchion a gwasanaethau newydd oherwydd pryderon am dorri rheoli’r Undeb Ewropeaidd ar Gymorth Gwladwriaethol, yn ogystal â phryderon am sefydliadau preifat yn elwa’n uniongyrchol ar gymorthdaliadau cyhoeddus lle mae’r risgiau ar gyfer buddsoddwyr masnachol yn is. Pryder cysylltiedig yw’r hyn a elwir yn “valley of death”, yr awgrymir ei fod yn bodoli rhwng y gwaith ymchwil cychwynnol a’r cam masnacheiddio[3].

 

Mae sefydlu Innovate UK a datblygu ffrydiau o gyllid pwrpasol gan gynghorau ymchwil y DU i hyrwyddo masnacheiddio ymchwil wedi ceisio cau bwlch y “valley of death”. Mae mentrau eraill, o greu Banc Datblygu Cymru i Fenter Creu Sbarc, wedi ceisio hyrwyddo buddsoddiadau a gefnogir gan y Llywodraeth, ecwiti preifat, cyfalaf menter ac ymwneud angylion buddsoddi yng nghamau cynnar a chanol  masnacheiddio ymchwil ac arloesedd.

 

 

Yn y cyfamser, cyflwynwyd amrywiaeth o weithdrefnau newydd gan gynghorau ymchwil a chyrff cyllido’r DU i wella effaith ymchwil a ariennir gan y Llywodraeth. Mae’r gweithdrefnau newydd hyn yn cynnwys gofyniad i geisiadau am gyllid gan y cyngor ymchwil nodi’r llwybrau a fwriadwyd i effaith academaidd, economaidd a chymdeithasol ac roedd cyfran uwch o asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn canolbwyntio ar effaith prifysgol. Fel rhan o broses y Fframwaith mae’n rhaid i ymchwilwyr nawr baratoi astudiaethau achos ar gyfer adolygiad annibynnol yn nodi sut mae’r ymchwil wedi cael effaith ar, neu wedi bod o fudd i ddiwylliant, yr economi, yr amgylchedd, iechyd, polisi cyhoeddus, safon bywyd neu gymdeithas yn fwy cyffredinol. Yn fwy diweddar, mae disgwyl hefyd i geisiadau am raglenni cyllido ymchwil a datblygu gael eu cefnogi gan gynrychiolwyr o gyrff busnes a/neu adrannau Llywodraeth sy’n noddi.

 

Nid oes ystadegau ar gael i ddangos y cydbwysedd rhwng cyllid ar gyfer ymchwil sylfaenol ac ymchwil gymhwysol. Mae cyllid ar gyfer ymchwil yn y DU yn dod o ffynonellau amrywiol yn cynnwys byd busnes, addysg uwch, y llywodraeth a sefydliadau dielw (elusennau).

 

Mae’r ystadegau sydd ar gael ar wariant ymchwil yn gwahaniaethu rhwng.

·                     GERD = Gwariant Domestig Gros ar Ymchwil a Datblygu

·                     BERD = Gwariant Busnesau ar Ymchwil a Datblygu

·                     HERD = Gwariant Addysg Uwch ar Ymchwil a Datblygu

·                     GovERD = Gwariant y Llywodraeth ar Ymchwil a Datblygu

·                     PNP = Gwariant Dielw Preifat ar Ymchwil a Datblygu. 

Ffigur 2: Gwariant ar Ymchwil a Datblygu yn ôl Math a Gwlad a Rhanbarth yn y DU, 2016.

 

Ffynhonnell Cyllid1 (£ miliynau)[4] [5]

 

 

GERD

BERD

HERD

GovERD

PNP

GERD y pen

De-ddwyrain Lloegr

6,665

4,693

1,269

606

97

738

Dwyrain Lloegr

5,662

4,393

758

223

288

924

Llundain

4,899

2,296

1,943

451

209

559

Gogledd-orllewin Lloegr

3,165

2,346

654

164

1

438

Dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr

4,856

3,958

751

144

3

4591

Yr Alban

2,331

1,072

1,061

163

35

431

De-orllewin Lloegr

2,159

1,500

409

229

21

391

Swydd Efrog a Glannau Humber

1,401

750

531

116

4

258

Cymru

716

435

266

15

0

230

Gogledd Iwerddon

647

481

152

14

0

347

Gogledd-ddwyrain Lloegr

629

302

241

47

39

239

Y DU

33,130

22,226

8,035

2,172

697

505

Nodiadau: 1. Amcangyfrif yn seiliedig ar ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

 

Mae dadansoddiad o lefel y cyllid GERD y pen yn ôl gwlad a rhanbarth yn y DU yn dangos bod y lefel gwariant a gofnodwyd yng Nghymru tua hanner cyfartaledd y DU ar £230 y person yn hytrach na £505 y person. Mae asesiad o lefelau’r gwahanol ffynonellau cyllid fel cyfran o gyfansymiau’r DU yn ôl y math o gyllid yn dangos bod gwariant busnesau ar ymchwil a datblygu yng Nghymru (BERD) yn 1.96% o gyfanswm y DU, tra bod gwariant addysg uwch a’r llywodraeth (HERD a GovERD) yn 2.75% o gyfanswm y DU.

 

Ledled y DU, daw’r rhan fwyaf o’r cyllid ymchwil a datblygu o ffynonellau busnes ac mae’r gymhareb rhwng y ffynhonnell hon o gyllid a mathau eraill o gyllid (h.y. HERD, GovERD a PNP) tua 2 i 1. Mae’r ffigur cyfatebol yng Nghymru yn 5 i 1. Mae hyn yn dangos y byddai gofyn i BERD gynyddu £676 miliwn o £435 miliwn i £1.1 biliwn er mwyn i lefel gyffredinol GERD gynyddu yng Nghymru o’i lefel gyfredol i lefel cyfartaledd cyfredol y DU.

 

Mae lefel cymharol isel gwariant busnesau ar ymchwil a datblygu wedi annog rhai i alw am sianelu cyllid ymchwil Llywodraeth Cymru o waith ymchwil pur a chymhwysol yn y sector addysg uwch i arloesedd a masnacheiddio mewn cwmnïau a sefydliadau eraill. Mae’r cynnig hwn yn camddehongli gwendidau cyfredol trefniadau ymchwil a datblygu yng Nghymru ac yn argymell ateb sy’n annhebygol o fynd i’r afael â’r problemau hyn.

 

Nododd Adolygiad diweddar Reid o waith ymchwil ac arloesi a ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru heriau i lefelau cyfredol o wariant gan addysg uwch a llywodraeth ar ymchwil a datblygu yng Nghymru o ganlyniad i BREXIT (amcangyfrif o tua £65 miliwn y flwyddyn) gan argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r arian sydd ar gael ganddi i annog ymchwil prifysgolion a chynrychiolwyr busnesau i wneud ceisiadau am y £6 biliwn o gyllid ymchwil a datblygu sydd ar gael gan y sefydliad newydd, United Kingdom Research and Innovation ({UKRI) a’r naw cyngor ymchwil sy’n rhan ohono.

         Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)

         Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BSRC)

         Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)

         Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)

         Innovate UK

         Y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC)

         Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC)

         Research England (RE) (yn gweinyddu cronfa Strength in Places i ddatblygu galluoedd ymchwil lleol ledled y DU

         Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, “Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop” yn cyflwyno’r ddadl o blaid disodli Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil a Datblygu gyda chynnydd yn y Grant Bloc i sicrhau na fydd yna ostyngiad cyffredinol yn y cyllid a ddaw i Gymru[6].

 

Cylch gwaith Cynghorau Ymchwil y DU yw hyrwyddo a chyllido ymchwil ac arloesedd gyda chydbwysedd rhwng cyllido rhaglenni cyfeiriedig sy’n edrych ar faterion penodol ac ymchwil modd ymateb sy’n ymchwilio i bynciau a luniwyd ac a ddiffiniwyd gan yr ymchwilwyr sy’n gwneud y cais.

 

Caiff cyllid y cynghorau ymchwil ei ategu gan gyllid ymchwil ar sail ansawdd a ddefnyddir i ddyrannu arian i gyllido staff ymchwil a seilwaith mwn sefydliadau addysg uwch fel y gallant wneud cais am gyllid o ffynonellau cystadleuol. Mae pedwar corff yn dyrannu’r cyllid hwn: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Cyngor Cyllido’r Alban (SFC), Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon a Research England. Mae’r symiau o arian a ddyrennir drwy’r broses ymchwilio ar sail ansawdd yn cael eu pennu drwy gyfeirio at ganlyniadau proses asesu’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil sy’n edrych ar ansawdd ymchwil ym mhob maes pwnc academaidd bob pump i saith mlynedd. Nid yw’r arian a ddyrennir fel rhan o’r broses hon wedi’i neilltuo ac felly mae ar gael i arweinwyr prifysgolion i ddyrannu yn ôl eu disgresiwn yn eu sefydliadau. Gellir defnyddio’r arian hwn at unrhyw bwrpas yn cynnwys cymorth ar gyfer gwaith ymchwil sylfaenol neu gymhwysol, arloesi a masnacheiddio neu i ddatblygu staff a gwella effaith a chyfathrebu canlyniadau ymchwil.

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r cydbwysedd ar lefel y DU rhwng cyllid y cyngor ymchwil ar gyfer gweithgarwch a ariennir gan raglenni ar gyfer cyflawni amcanion economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol penodol, dyraniadau modd ymatebol a chyllid ymchwil ar sail ansawdd wedi symud i fod o blaid y cyntaf. Mae’r newid hwn wedi cyd-fynd â’r twf mewn cyllid gan Gronfa Fuddsoddi Cynhyrchiant Cenedlaethol Trysorlys EM a’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol a’r Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang cysylltiedig. Y gymhareb gyfredol rhwng cyllid o ffynonellau cystadleuol (h.y. y cyngor ymchwil, cronfeydd corfforaethol ac elusennol) a chyllid ymchwil ar sail ansawdd yn Lloegr yw 1 i 0.68, ond mae’n destun adolygiad gan Research England ac yn debygol o symud yn agosach at gymhareb o 1 i 1 yn y dyfodol agos.

 

Argymhellodd Adolygiad Reid y dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau cymhareb o 1 i 1 rhwng cyllid o ffynonellau cystadleuol a chyllid ymchwil ar sail ansawdd er mwyn cefnogi mwy o geisiadau o safon uchel am gyllid gan y cynghorau ymchwil, elusennau a noddwyr corfforaethol.

 

Roedd Adolygiad Reid yn cynnwys y tri argymhelliad canlynol er mwyn cyflawni’r amcanion hyn.

 

1.         Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i sicrhau bod gwaith ymchwil yng Nghymru yn fwy amlwg a dylanwadol drwy greu corff newydd, sef Swyddfa Ymchwil ac Arloesi Cymru yn Llundain (WRILO) (er mwyn gwella ymgysylltu â chyllidwyr ymchwil a llunwyr polisïau sydd wedi’u lleoli yn Llundain).

 

2.         Dylai Llywodraeth Cymru atgyfnerthu sail ymchwil Cymru a galluogi ymchwilwyr yng Nghymru i ddenu cyfran fwy o gyllid y DU gyfan drwy weithredu ar argymhellion Diamond ynglŷn â chynyddu cyllid ymchwil ar sail ansawdd o £71 miliwn i £90 miliwn y flwyddyn a chreu cronfa ychwanegol, sef Cronfa Dyfodol Cymru, o £25 miliwn y flwyddyn, yn benodol i roi cymhelliant i ymchwilwyr yng Nghymru sicrhau cyllid o’r tu allan i Gymru.

 

3.         Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gweithgarwch ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn fwy amlwg a chydlynus a’i fod yn cael mwy o effaith drwy greu un brand cyffredinol ar gyfer ei gweithgareddau arloesi, sef Cronfa Fuddsoddi Dewi Sant. Dylai’r gronfa hon fod yn werth tua £35 miliwn y flwyddyn i ddechrau ond gyda’r potensial i gynyddu i £100 miliwn y flwyddyn neu fwy ar ôl BREXIT.

Dim ond newydd symud i fy mhortffolio i mae’r cyfrifoldeb am gyflawni Adolygiad Reid (a’r meysydd polisi cysylltiedig). Un o’m tasgau cyntaf fydd asesu cynnydd a wnaed o ran ymateb i’r adroddiad a’n parodrwydd i weithredu’r argymhellion.

 

i.    Y gwahaniaethau rhwng cyllid ymchwil ac arloesi ar gyfer prifysgolion a chyllid ar gyfer busnesau

Mae strategaeth, cyllid a threfniadau goruchwylio ymchwil ac arloesedd Llywodraeth y DU wedi datblygu dros yr wyth mlynedd diwethaf drwy gyfres o fentrau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer amcanion busnes ac economaidd gwella cynhyrchiant a Gwerth Ychwanegol Gros fel y’i cofnodwyd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Dros yr un cyfnod, rhoddwyd llai o bwyslais ar ymchwil sy’n canolbwyntio ar nwyddau a gweithgareddau diwylliannol.

 

Mae tystiolaeth i gefnogi cymysgedd o fuddsoddiad gan y Llywodraeth drwy brifysgolion a busnes yn cael ei darparu gan economegwyr o wahanol draddodiadau damcaniaethol a gwleidyddol amrywiol[7][8][9]. Fodd bynnag, mae cryfder y cymorth hwn yn amrywio yn ôl y math o ymchwil a gynigir, i ba raddau mae’n cael sylw, y ffynhonnell a awgrymir a’r math o gyllid.

 

Nid yw pob gwaith ymchwil a datblygu yn llwyddo i wella deilliannau economaidd a chymdeithasol i’r un graddau. Mae yna sectorau o’r economi lle mae’r DU a Chymru wedi parhau i fod â mantais fusnes gystadleuol ar lefel ryngwladol ac sy’n gweld cyfraddau twf economaidd uchel a rhagolygon cyflogaeth da, ond bod gwariant ar ymchwil a datblygu’n isel o’i gymharu â sectorau eraill, neu heb gael ei gofnodi bob amser, e.e. diwydiannau creadigol a gwasanaethau ariannol. Yn y gorffennol, mae’r sectorau hyn wedi dibynnu ar gyflogi llawer iawn o raddedigion sydd wedi cwblhau eu haddysg mewn prifysgolion lle mae’r staff yn ymroi i waith ymchwil. Does wybod i ba raddau y bydd gwariant y sectorau hyn ar ymchwil a datblygu yn parhau i fod yn gymharol isel yn y dyfodol gyda’r twf disgwyliedig yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol.

 

Mae sectorau o economi Cymru yn arbennig sydd wedi gweld twf ond mae ansawdd y swyddi a’r lefelau cynhyrchiant ynddynt yn isel, ac yn hanesyddol nid oes llawer o waith ymchwil wedi’i gyflawni i ddangos sut y gall cwmnïau a sefydliadau eraill wella’r perfformiad hwn. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sectorau sylfaen – gofal, bwyd, manwerthu a thwristiaeth – a nodwyd yng nghynllun gweithredu ar yr economi Llywodraeth Cymru. Yn olaf, mae yna feysydd o economi Cymru sydd wedi gweld twf, sy’n cynnwys rhagolygon cyflogaeth da, ond lle nad yw swm ac effaith y gweithgarwch ymchwil a datblygu ar lefelau cystadleuol yn rhyngwladol bob amser), e.e. gweithgynhyrchu uwch (y meysydd awyrofod, modurol a rheilffyrdd) technolegau galluogi (adeiladu ac ynni) neu wasanaethau marchnatadwy (creadigol a digidol).

 

O ran y rhai sy’n hyrwyddo newidiadau i’r drefn drethi ar gyfer cwmnïau sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, mae’n bwysig nodi y gall hyn gael canlyniadau sylweddol i ble mae gwariant ar ymchwil a datblygu’n cael ei gofnodi gan fusnesau yn hytrach na chynyddu lefel neu ansawdd cyffredinol yr ymchwil[10][11]. Yn yr un modd, gall darparu grantiau ymchwil o arian cyhoeddus a benthyciadau ffafriol i gwmnïau masnachol olygu nad oes lle i fuddsoddiadau preifat gan i bob pwrpas symud cost a risg y gweithgarwch hwn o’r sector preifat i’r sector cyhoeddus, ond bod y sector preifat ac nid y cyhoedd yn cael yr elw a’r manteision[12].

 

Mae amrywiadau yn lefel gwariant busnesau ar ymchwil a datblygu yng ngwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr yn adlewyrchu patrwm diwydiant yn y gwahanol ardaloedd hyn a’r hanes hir o fuddsoddi mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil a thechnoleg yn yr ardaloedd daearyddol hyn. Mae’n ymddangos bod llwyddiant yn magu llwyddiant yma wrth i gwmnïau, yn enwedig buddsoddwyr gwybodaeth ddwys uniongyrchol o dramor, gael eu denu’n anghymesur i ardaloedd dwysedd ymchwil a datblygu uchel[13].

 

Yn y DU, y buddsoddwyr mwyaf ym maes ymchwil a datblygu yw’r sector iechyd a fferyllol ac maen nhw’n dueddol o fod wedi’u lleoli yn ac o amgylch coridror yr M25 ac yng Nghaergrawnt. Yn yr un modd, mae’r diwydiant modurol a rhannau ceir, yr ail fuddsoddwr mwyaf mewn ymchwil a datblygu, wedi tueddu i fod yn ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr tra bod gan y pedwerydd ar y rhestr, awyrofod, bresenoldeb daearyddol cryf yng Ngogledd-orllewin a De-orllewin Lloegr yn ogystal â Gogledd Cymru, er bod y gallu ymchwil wedi’i gyfyngu i’r ddau leoliad cyntaf yn bennaf.

 

Ffigur 3: Gwariant gan fusnesau’r DU ar gyflawni gwaith ymchwil a datblygu mewn prisiau cyfredol, yn ôl grŵp cynnyrch mwyaf 2010 i 2017

Sector y diwydiant

Gwerth (£ miliwn)

% o gyfanswm y DU

Safle 2010

Safle 2017

Fferyllol

4,337

18

1

1

Cerbydau modur a rhannau

3,601

15

4

2

Rhaglennu cyfrifiadurol a gwasanaethau gwybodaeth

1,919

15

2

3

Awyrofod

1,521

8

3

4

Gweithgareddau busnes amrywiol, yn cynnwys profi a dadansoddi

1,513

6

9

5

Datblygu meddalwedd

1,389

6

7

6

Gwasanaethau ymchwil a datblygu

1,138

6

8

7

Peiriannau a chyfarpar

1,037

5

6

8

Cemegion a chynhyrchion cemegol

870

4

7

9

Electroneg defnyddwyr a chyfarpar cyfathrebu

821

4

12

10

Telathrebu

753

3

5

11

 

 

 

2.            Sut i atal buddiannau ymchwil ac arloesi prifysgolion a cholegau rhag rhoi buddiannau ymchwil ac arloesi byd diwydiant yn y cysgod

Mae Adolygiad Reid yn tynnu sylw at y newid yn y cydbwysedd cyfleoedd ar gyfer cyllid gwaith ymchwil ac arloesi, sydd bellach yn symud o'r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn gynyddol i'r UKRI a'r cynghorau, y cwmnïau a'r elusennau ymchwil sydd â'u pencadlys yn Llundain. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r lefelau llwyddiant is wrth wneud cais am gyllid ymchwil a ddyrennir ar sail cystadleuaeth gan gynghorau ymchwil y DU a chynllun Horizon 2020 a oruchwylir gan yr Undeb Ewropeaidd. Gan nodi bod ymchwilwyr a busnesau yng Nghymru wedi elwa ar ryw £65m y flwyddyn o Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd  i gefnogi gwaith ymchwil a gweithgarwch datblygu yng Nghymru, mae'r adroddiad yn rhybuddio ynghylch effeithiau tynnu'r cyllid hwn yn ôl wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae dadansoddiad Adolygiad Reid yn nodi y bydd penderfyniadau ynghylch cyllid ymchwil a datblygu yn cael eu gwneud yn gynyddol yn Llundain gan gyrff lle nad oes llawer o gynrychiolaeth i ymchwil prifysgolion Cymru a busnesau Cymru, os o gwbl.

 

O dan delerau Deddf Cymru (2017), mae rheoleiddio sut caiff Cynghorau Ymchwil y DU eu gweithredu'n gyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl nad yw'n ddatganoledig. Mae'r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer rôl dyrannu cyllid ymchwil Gweinidogion Cymru. Yn ymarferol, caiff cyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd ei ddyrannu yng Nghymru gan CCAUC, a chaiff swm cyfyngedig o wariant ymchwil uniongyrchol y Llywodraeth ei ddyrannu gan Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, nid yw sefyllfa cyllid ymchwil a datblygu ac union natur cydbwysedd y gwaith o oruchwylio polisi ymchwil ac arloesi yng Nghymru rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gwbl glir ar hyn o bryd.

 

Mae Adolygiad Reid yn awgrymu nad sut i atal buddiannau ymchwil ac arloesi prifysgolion a cholegau rhag rhoi buddiannau byd diwydiant (yng Nghymru) yn y cysgod yw'r prif gwestiwn sy'n wynebu Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Y cwestiwn, yn hytrach, yw sut i sicrhau cynrychiolaeth i fuddiannau ymchwil ac arloesi prifysgolion a busnesau yng Nghymru ymhlith y cyrff sy'n gwneud penderfyniadau cyllid a pholisi ymchwil yn Llundain. Mae Gweinidogion Cymru wedi ceisio tynnu sylw at y mater hwn drwy erthyglau a chyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr UKRI.[14]

 

Yng nghyllideb 2018 y DU, ymrwymwyd i gynyddu lefel y gwariant gros ar ymchwil a datblygu o fewn y DU i 2.4% o'r cynnyrch domestig gros erbyn 2027. Isod ceir manylion y cynnydd gwirioneddol diweddar a'r cynnydd a ragwelir ar gyfer y dyfodol o ran gwariant ar ymchwil a datblygu yn y DU, ynghyd â syniad o'r gyfran o'r gwariant hwn sy'n seiliedig ar y boblogaeth, ar sail 5% o ffigur cyffredinol y DU.

 

Ffigur 4: Y Gwariant Gwirioneddol a'r Gwariant a Ragwelir ar Ymchwil a Datblygu o fewn Cronfa Genedlaethol Buddsoddi mewn Cynhyrchiant 2017-2022 (£ miliwn)[15]

 

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

2022-23

2023-24

Cyllid Ymchwil a Datblygu

425

820

1,520

2,000

2,325

-

-

Targed tybiannol o 5% ar gyfer cyllid ymchwil a datblygu

21.25

41.0

76.0

100.0

116.25

-

-

 

Nod y cynigion a amlinellwyd yn nogfen ymgynghori "Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus" oedd darparu fframwaith ar gyfer goruchwylio a chydlynu gweithgarwch ymchwil a datblygu yn y dyfodol er mwyn ei gwneud yn bosibl sicrhau cyfran fwy o'r cyllid a ddarperir gan UKRI, cynghorau, cwmnïau ac elusennau ymchwil, a ddyrennir ar sail cystadleuaeth[16].

 

Tra bo Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynyddu dylanwad busnesau ac ymchwilwyr yng Nghymru dros bolisi a chyllid ymchwil a datblygu ar lefel y DU, mae Llywodraeth y DU wedi ceisio cynyddu dylanwad busnesau dros gyllid ymchwil a datblygu drwy'r pum gweithgaredd rhyng-gysylltiedig a nodir isod. Mae yna gryn debygrwydd i'r dull a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi.

 

Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi: Cynhaliwyd archwiliadau gwyddoniaeth ac arloesi mewn 21 o ardaloedd ledled y DU er mwyn asesu cryfderau busnesau a gwaith ymchwil sy'n digwydd eisoes, a'r cyfleoedd i ddatblygu ymhellach. Mae tri o'r archwiliadau a gynhaliwyd hyd yma wedi cynnwys ymchwilwyr prifysgolion ac unigolion busnes o Gymru:

 

a.    De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru (2016)[17]

b.    Ardal Niwclear y Gogledd-orllewin (2018)

c.    Crwsibl De Cymru (Prifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd).

Mae rhywfaint o'r wybodaeth a'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r archwiliadau hyn yn gydnaws â'r ardaloedd economaidd a nodir yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi, ond mae yna le i gysylltiad mwy a chydweithio agosach.

 

i.              Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol: mae'r Gronfa hon yn darparu grantiau mewn deunaw o ardaloedd sy'n gysylltiedig â phedair her fawr y strategaeth ddiwydiannol[18]. Mae'r contractau economaidd a ddisgrifir yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru wedi'u gweithredu gan gwmnïau a ddewiswyd, ac maent yn darparu ar gyfer cynnig benthyciadau a grantiau yn gyfnewid am ystod o ymrwymiadau, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, leoliad gweithgarwch ymchwil a datblygu corfforaethol yng Nghymru.

 

ii.            UKRI a Research England: Mae UKRI a Research England yn darparu mecanwaith ar draws y DU ac yn Lloegr ar gyfer alinio gwariant ymchwil a datblygu â'r pedair her fawr yn Strategaeth Ddiwydiannol y DU a'r ffrydiau cyllid a drefnwyd gan y cynghorau ymchwil. Nod elfen Ymchwil ac Arloesi Cymru o'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yw cyflawni swyddogaethau tebyg i UKRI a Research England drwy ei rôl yn goruchwylio cyllid ymchwil ac arloesi a neilltuir ac nas neilltuir mewn modd sy'n cysylltu â UKRI ac sy'n gydgysylltiedig ag ef.

 

iii.           Cytundebau'r sectorau: y nod yw cysylltu gwaith ymchwil a datblygu a buddsoddiadau eraill a arweinir gan y Llywodraeth ag anghenion busnes mewn wyth sector. Fel y nodwyd mewn darlith ddiweddar ar y cyd gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU, Greg Clark, a Phrif Weithredwr UKRI, Mark Walport, mae yna gryn gyfatebiaeth a thebygrwydd rhwng y sectorau a nodwyd yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a chytundebau sectorau cysylltiedig a'r rheini a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi.

 

 

Ffigur 5: Cytundebau'r Sectorau a Chyfleusterau Ymchwil a Datblygu

 

Cytundeb Sector Strategaeth Ddiwydiannol y DU

Ymchwil a Datblygu yng Nghymru wedi'i nodi yn y cytundeb

Gweithgarwch ymchwil a datblygu yn gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi

Sectorau Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi

Gwyddorau Bywyd

Hwb Gwyddorau Bywyd[19] a Sefydliad Ymchwil Dementia y DU[20]

 

 

Awyrofod

 

Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch

 

 

Gweithgynhyrchu uchel ei werth

Modurol

 

Parc Technoleg Fodurol (Glynebwy)[21]

Rheilffyrdd

 

 

Diwydiannau creadigol

 

Cymru Greadigol[22]

 

 

Gwasanaethau y gellir eu masnachu

 

 

 

Deallusrwydd Artiffisial

 

Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Catapult[23]

Adeiladu

 

Y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC)[24]

 

 

Galluogwyr

Niwclear

 

Ardal Niwclear y Gogledd-orllewin a'r Cyfleuster Hydrolig Thermol Cenedlaethol[25]

Rheilffyrdd

 

 

 

 

 

Gofal

 

 

Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)

Bwyd

 

 

 

Manwerthu

 

 

 

Twristiaeth

 

Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal a buddsoddi mewn nifer fach o hybiau ymchwil ac arloesi arbenigol sy'n gydnaws ag argymhellion Adolygiadau Diamond a Reid.

"Gan ddechrau â’r Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd a’r Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn, a chan adeiladu ar gryfderau presennol fel Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth a’r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) ym Mhrifysgol Abertawe, byddwn yn buddsoddi’n ddetholus mewn cyfleusterau ymchwil ac arloesedd allweddol er mwyn cefnogi technolegau newydd a datblygu busnesau ym mhob rhan o Gymru. Ymysg buddsoddiadau allweddol ym maes ymchwil yn y dyfodol mae Parc Technoleg Fodurol yng Nghymoedd y De a Chanolfan Ymchwil Dur ym Mhort Talbot[26]."

 

 

iv.           Mae Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol yn cynnwys cynrychiolwyr busnes ac academia annibynnol benodwyd i gynghori Gweinidogion ar effeithiolrwydd y Strategaeth Ddiwydiannol a'r buddsoddiad cysylltiedig mewn trafnidiaeth, sgiliau ac arloesi.[27] Mae swyddogaeth gyfatebol yn cael ei chyflawni yng Nghymru gan Gyngor Datblygu'r Economi, Cyngor sydd wedi hen ennill ei blwyf sy'n rhoi fforwm i Brif Weinidog Cymru, Gweinidog yr Economi ac aelodau eraill o'r llywodraeth i ymgynghori â chynrychiolwyr busnesau ac undebau llafur cenedlaethol. 

Mae'r cynigion i sefydlu Comisiwn  ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cyd-fynd â'r strategaeth economaidd a amlinellir uchod. Roedd y cynigion hyn yn destun ymgynghoriad technegol rhwng mis Mehefin a mis Awst 2018. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ar 12 Hydref.  Yn y cynigion, mae ymchwil ac arloesi yn rhan allweddol o gylch gwaith y Comisiwn newydd a chynigir creu corff newydd, sef Ymchwil ac Arloesi Cymru fel pwyllgor statudol o'r Comisiwn.

 

Byddai bod yn bwyllgor statudol i'r Comisiwn yn rhoi hunaniaeth gref a phresenoldeb cryf i ymchwil ac arloesi. I'r un perwyl, byddai cadeirydd Ymchwil ac Arloesi Cymru yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru a byddai hefyd yn is-gadeirydd y Comisiwn.  Bydd hynny’n sicrhau bod  nodau'r Comisiwn ac Ymchwil ac Arloesi Cymru yn cyd-fynd â'i gilydd.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r Comisiwn fel corff hyd braich a chynigir bod Llywodraeth Cymru  yn cyhoeddi datganiad o flaenoriaethau ar gyfer y Comisiwn a bydd y blaenoriaethau hynny'n debygol iawn o gynnwys ymchwil. Yna, bydd y Comisiwn yn ymateb gyda chynllun strategol i gytuno arno gyda Gweinidogion Cymru Bydd Ymchwil ac Arloesi Cymru yn rhoi cyngor i'r Comisiwn ar bob agwedd sy'n ymwneud ag ymchwil ac arloesi.

 

Mae ehangu cylch gwaith y Comisiwn y tu hwnt i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gwmpasu’r sector ôl-orfodol cyfan hefyd yn golygu y gall Ymchwil ac Arloesi Cymru weithredu'n strategol a chyllido ymchwil ac arloesedd ar gyfer pob sefydliad o fewn y sector. Yn  wir, gall ymestyn y tu hwnt i hynny, i ddiwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

Roedd yr ymgynghoriad technegol yn rhagweld tair prif ffrwd gyllido a gaiff eu gweinyddu gan Ymchwil ac Arloesi Cymru ar ran y Comisiwn:

 

a.            Heb ei neilltuo: cyllid lle nad oes dim manylion ynghylch natur yr ymchwil a'r gwaith arloesi sydd i'w gyllido. Rhagwelir y bydd hyn yn debyg i gyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd a weinyddir gan CCAUC ar hyn o bryd.

 

b.            Wedi'i neilltuo ar lefel uwch: cyllid sy’n targedu blaenoriaethau strategol Gweinidogion Cymru fel bod natur yr ymchwil a'r arloesi sydd i'w gyllido ar lefel uwch.

 

c.            Wedi'i neilltuo: cyllid ar gyfer prosiectau ad-hoc, penodol a sylweddol.

 

 

Bydd Ymchwil ac Arloesi Cymru yn monitro effeithiolrwydd y cyllid hwn er mwyn sicrhau'r llwyddiant mwyaf, effeithiolrwydd o ran cyflawni a gwerth am arian, a’i weinyddu yn unol ag egwyddor o ryddid academaidd ac egwyddor Haldane – sy'n golygu y bydd penderfyniadau ar gyllid ymchwil yn cael eu gwneud gan arbenigwyr priodol. Bydd Ymchwil ac Arloesi Cymru yn cyfrannu at adroddiad blynyddol y Comisiwn ac yn manylu ar effeithiolrwydd ac effaith ei weithgareddau cyllido.

 

Ar ben gweinyddu cyllid, cynigir bod Ymchwil ac Arloesi Cymru yn:

·         annog pobl i elwa ar ymchwil ac arloesi yng Nghymru;

·         casglu data a thystiolaeth o'r ffordd y mae Cymru yn cyflawni ac yn perfformio o ran ymchwil ac arloesi; a

·         cymryd rhan mewn gweithgareddau tebyg a chyffredin yn y Deyrnas Unedig a thrafod gyda chyrff tebyg yn y Deyrnas Unedig, pan fo hynny'n briodol.

 

Bwriedir i Ymchwil ac Arloesi Cymru weithredu'n strategol fel rhan o'r Comisiwn, gan gynnig hunaniaeth a llais cryfach i ymchwil ac arloesi yng Nghymru

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad  yn gefnogol i'r syniad o sefydlu Ymchwil ac Arloesi Cymru fel pwyllgor statudol o'r Comisiwn ac iddo symud ymlaen â'r gwaith o weithredu argymhellion Adolygiad Reid. Croesawyd y syniad o gael cwmpas cyllido ehangach hefyd

 

Y brif feirniadaeth oedd bod y cynigion yn rhy fanwl, a'u bod yn cynnwys  llawer o ddeunydd nad yw'n cael ei ystyried yn briodol i ddeddfwriaeth sylfaenol. Ystyriwyd bod y dulliau cyllido yn un enghraifft o hyn. Roedd yr ymatebwyr yn teimlo bod y cynigion yn canolbwyntio gormod ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn hytrach na rhoi'r prif egwyddorion ar gyfer y dyfodol. Mae yno ddymuniad hefyd i weld aelodau Ymchwil ac Arloesi Cymru yn cael eu penodi gan y Comisiwn yn hytrach na Gweinidogion Cymru. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried wrth ddatblygu deddfwriaeth.

 

3.            Entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr ac yn raddedigion a'r cymorth sydd ar gael iddynt

Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi yn ymrwymo i feithrin diwylliant entrepreneuraidd a gosod targedau ar gyfer y nifer o fusnesau newydd gan bobl sy'n gadael yr ysgol, y coleg a'r brifysgol.

 

Yn ystod blwyddyn academaidd 2016/17, yn ôl prifysgolion Cymru roedd 241 o fusnesau newydd wedi’u dechrau gan raddedigion, a oedd yn cynhyrchu trosiant o ryw £56 miliwn.

 

Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru  bod cyfanswm o £2.5m ar gael dros 3 blynedd i golegau a phrifysgolion gyflymu entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr yng Nghymru. Mae'n ofynnol i gyrff sy'n ymgeisio bennu targedau sefydliadol ar gyfer nifer y myfyrwyr a fydd yn dechrau busnes.

Mae'n cynllun dechrau busnes i raddedigion ac entrepreneuriaeth ieuenctid yn canolbwyntio ar 5 blaenoriaeth:

·         codi dyheadau a gwella dealltwriaeth o entrepreneuriaeth;

·         datblygu sgiliau ac agweddau entrepreneuraidd drwy brofiadau ymarferol;

·         adnabod a meithrin entrepreneuriaid y dyfodol drwy rwydweithiau pobl ifanc;

·         ymgysylltu â busnes, yn enwedig entrepreneuriaid i rannu arbenigedd;

·         grymuso Addysg Bellach ac Addysg Uwch i ysgogi mentrau myfyrwyr.

Mae darparwyr Busnes Cymru yn cynnig benthyciadau o hyd at £25k i ddechrau busnes, gyda buddsoddiad o £8,589 ar gyfartaledd. Mae 13% o fenthyciadau yn cael ei roi i unigolion 18-24 oed.

Gall busnesau newydd gan raddedigion symud ymlaen i fanteisio ar y Rhaglen Cyflymu Twf, sydd wedi rhoi cymorth i 820 o fusnesau i oresgyn cyfyngiadau strategol.

 

Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod dros £4m ar gael ar gyfer hybiau menter newydd, a fydd yn rhoi lle i gwmnïau, cwmnïau newydd ac unigolion rwydweithio, arloesi a chael gafael ar ystod o wasanaethau cymorth.   Bydd yr hybiau yn sefydlu cysylltiadau cryf gyda'n colegau, ein prifysgolion, ein hawdurdodau lleol a Banc Datblygu Cymru, gan ddarparu system gymorth ar gyfer entrepreneuriaid sy'n syml, yn weledol ac sydd wedi ei chysylltu'n dda.

 

Mae gan y pum hwb dargedau cyfunol, sef creu o leiaf 700 o fentrau newydd a 1160 o swyddi newydd o safon.

 

Mae menter Creu Sbarc yn Gwmni Buddiannau Cymunedol annibynnol sy'n cefnogi diwylliant entrepreneuraidd drwy drafod gyda rhanddeiliaid (academia, busnes corfforaethol, entrepreneuriaid, llywodraeth a chyfalaf risg) er mwyn hyrwyddo entrepreneuriaeth sydd wedi ei ysgogi gan arloesi.

 

 

4.            Sut mae prifysgolion a busnesau (yn enwedig BBaChau) yn rhyngweithio â'i gilydd, gyda diddordeb penodol yn y canlynol:

 

    i.Sut maent yn trosglwyddo neu'n defnyddio'r wybodaeth a geir o waith ymchwil

 

Mae hyn yn digwydd mewn sawl ffordd: drwy brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol; drwy drosglwyddo gwybodaeth e.e. seminarau, cyrsiau, hyfforddiant, secondiadau; ymchwil dan gontract ac ymgynghoriaeth; cynadleddau a chyhoeddiadau academaidd; a thrwyddedu eiddo deallusol.

 

Yn ôl tystiolaeth hanesyddol, prosiectau cydweithredol a secondiadau sy'n fwyaf llwyddiannus ar y cyfan.

 

Yn aml mae cwmnïau, yn enwedig BBaChau, yn honni eu bod yn cael trafferth delio â phrifysgolion.  Y rhesymau mwyaf cyffredin a roddir am hyn yw:

·         nad yw prifysgolion yn tueddu i weithio yn ôl amserlenni diwydiant;

·         mae eu costau'n ormodol (er y dylent godi premiwm oherwydd dylai fod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf);

·         maent yn tueddu i ofyn am berchnogaeth lwyr ar eiddo deallusol a/neu'n ei orbrisio;

·         nid ydynt yn darparu'r hyn yr oedd y cwmnïau'n ei ddisgwyl mewn gwirionedd.

 

Mae cwmnïau hefyd yn ei chael hi'n anodd rhyngweithio gyda phrifysgolion oherwydd bod telerau ac amodau penodol gan bob ohonynt sy'n arwain at anghysondeb ac ansicrwydd i'r cwmni.

 

Mae amodau cyllid ymchwil a datblygu SMART yn sicrhau bod manteision eiddo deallusol yn cael eu rhannu rhwng y diwydiant a'r partner academaidd a bod y risgiau cysylltiedig hefyd yn cael eu rhannu, ac felly'n creu partneriaeth wirioneddol lle rhennir manteision, costau a risgiau'n gyfartal. Dylai ystyried cymorth ar gyfer cyfres gynhwysfawr o raglenni SMART fod yn flaenoriaeth yn dilyn Brexit.

 

 

ii.  Y cymhellion a'r gwobrwyon ar gyfer rhyngweithio

Mae ein gweithgarwch SMART presennol yn darparu cymorth ariannol drwy Feysydd Gweithredu a Chronfa Dyfodol yr Economi er mwyn i fusnesau allu rhyngweithio â phrifysgolion.

Mae SMART Expertise yn darparu cymorth ar gyfer prosiectau cydweithredol rhwng diwydiant a sefydliadau ymchwil Cymru, sy'n ymdrin â heriau diwydiannol technegol strategol.  Rhaid i brosiectau fod â ffocws clir ar fasnacheiddio cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd. Telir costau llawn y sefydliad ymchwil ac mae'r partneriaid diwydiant yn darparu cyfraniadau drwy weithgarwch ymchwil a datblygu ategol.

Caiff gwybodaeth y brifysgol (eiddo deallusol) ei masnacheiddio gan y partneriaid diwydiant yn hytrach na'r brifysgol ei hun. Mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i barhau â gwaith ymchwil yn y maes hwn, ond nid oes ganddi'r baich ariannol o gynnal patentau etc.

Y partneriaid diwydiant sy'n ysgwyddo'r costau hyn.

 

Darperir cymorth hefyd drwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a Phartneriaethau SMART, sy'n dyfarnu cyllid i dalu costau cydymaith ymchwil, sef myfyriwr graddedig fel arfer, i weithio mewn busnes dan oruchwyliaeth academydd o'r brifysgol er mwyn cyflwyno gwybodaeth newydd i'r busnes.

 

iii. Sut y gellir gwella rhyngweithio

 

Mae Adolygiad Reid yn argymell bod holl ymchwil ac arloesi Llywodraeth Cymru'n cael eu dwyn ynghyd o dan un brand cyffredinol er mwyn sicrhau cydlyniant a thryloywder a hwyluso mynediad. Un o brif oblygiadau hyn yw y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith blaenoriaethau er mwyn sicrhau mwy o gydlyniant a chydgysylltu. Gallai fframwaith o'r fath fod yn seiliedig ar elfennau o'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Fel y nodwyd uchod, un o'm tasgau cyntaf yw ystyried y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

 

Yn ôl Adolygiad Reid, mae nifer o wledydd yr OECD wedi gwneud buddsoddiadau strategol mewn Sefydliadau Ymchwil a Thechnoleg e.e. Y Ffindir, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Singapôr a'r Unol Daleithiau. Nid oes gan Gymru hanes cryf yn y maes hwn, ond mae'r datblygiadau diweddar yn galonogol iawn gyda'r canolfannau canlynol wedi'u sefydlu yn y blynyddoedd diwethaf:

 

SPECIFIC

 

Mae SPECIFIC yn un o chwe chanolfan arloesi a gwybodaeth, sydd bellach yn ei hail gylch ariannu ar gyfer Innovate UK a'r EPSRC ac wedi cael £5 miliwn dros 5 mlynedd.  Maent wedi sefydlu'r cysyniad o Adeiladau Ynni Gweithredol, sef adeiladau sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni eu hunain ac yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio. Yn ogystal, maent wedi cael cyllid o £15 miliwn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i gynyddu eu gwaith yng Nghymru, gan weithio gyda BBaChau.

 

Mae'r ganolfan hon yn cydweithio â nifer o gwmnïau mawr gan gynnwys Tata ac Akzo Nobel, gan droi syniadau'n gysyniadau a'u masnacheiddio.

 

Mae wedi adeiladu sawl arddangosiad dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Ystafell Ddosbarth Weithredol (Active Classroom) a Swyddfa Weithredol (Active Office). 

 

Canolfan Adeiladau Ynni Gweithredol

Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Prifysgol Abertawe wedi ennill £36m gan UKRI i sefydlu Canolfan Adeiladau Ynni Gweithredol. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad â diwydiant ar yr angen am ganolfan o'r fath.    

 

I hwyluso hyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £7.4 miliwn er mwyn helpu'r Ganolfan i gefnogi prosiectau.

 

Nod y Ganolfan yw cyflymu'r broses o fabwysiadu adeiladau gweithredol a helpu i greu diwydiant newydd. Bydd yn canolbwyntio ar dai ac adeiladau'r sector cyhoeddus.

 

 

 

 

Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Catapult

 

Nodwyd yn yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd ar gyfer De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr a gynhaliwyd gan BEIS fod Electroneg a Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn gryfderau yng Nghymru. Bydd dros £50m yn cael ei fuddsoddi drwy Innovate UK i greu cyfleuster ymchwil a datblygu cenedlaethol ar gyfer lled-ddargludyddion yn Ne Cymru.  Dyma'r 'catapult' cyntaf i gael ei leoli yng Nghymru.  Ochr yn ochr â chyllid cyfalaf gan bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, bydd yn arwain at fuddsoddiad o £150 miliwn. Bydd yn canolbwyntio ar helpu busnesau i droi'r deunyddiau newydd a ddatblygir yn y sefydliad yn gymwysiadau ar gyfer cynhyrchion newydd.

 

Mae Adolygiad Reid yn argymell creu tair canolfan arloesi a arweinir gan ddiwydiant gyda chyllid o'r Gronfa Fuddsoddi Dewi Sant, a fydd yn canolbwyntio ar arloesi yn y byd busnes. Gellid creu'r canolfannau hyn gan osod targed i gyflawni'r model cyllido tri thraean, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yn yr hirdymor.

 

Mae angen i Gymru gynnal ei dull gweithredu unigryw ei hun yn seiliedig ar ei chryfderau a'i blaenoriaethau penodol, ond ni all weithredu ar ei phen ei hun yn llwyr. Dylem nodi'r ymchwil helaeth a wnaed i lywio blaenoriaethau cyllid UKRI ac Innovate UK. Yn ogystal, rhaid i bolisïau ac arferion gymryd i ystyriaeth mentrau'r DU a mentrau rhyngwladol wrth i ni baratoi ar gyfer Brexit.

 

O ran cyfleoedd yn y dyfodol i wella'r cydweithredu rhwng y byd busnes a'r byd academaidd, ceir posibiliadau yn y meysydd canlynol os bydd ffynonellau cyllid newydd ar gael:

 

·         Annog prifysgolion a busnesau i ddenu buddsoddiad i Gymru o Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a Chytundebau Sector, megis drwy'r Gronfa Dyfodol Cymru arfaethedig.  Gallai hyn ddefnyddio gallu Cymru i gydgysylltu'n fewnol a gweithredu'n gyflym i ddenu buddsoddiadau ymchwil a datblygu mawr, gan ganiatáu i ni gystadlu'n fwy effeithiol am ragor o arian o Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol sy'n werth £4.7bn.

 

·         Roedd Adolygiad Reid hefyd yn argymell creu Cronfa Ymchwil ac Arloesi Dydd Gŵyl Dewi.

 

 

 

 

 

 



[1] http://oe.cd/frascati

[2] Gibbons, M. Limoges, C. Nowotny, H. Schwartzman, S. Scott, P. a Trow, M. (1994). The New Production of Knowledge: The Dynamics of Science and Research in Contemporary Societies. Llundain, Sage.

[3] https://publications.parliament.uk/pa/cm201213/cmselect/cmsctech/348/348.pdf

[4] https://www.ons.gov.uk/economy/governmentpublicsectorandtaxes/researchanddevelopmentexpenditure/bulletins/ukgrossdomesticexpenditureonresearchanddevelopment/2016.

 

[5] https://researchbriefings.parliament.uk/ResearchBriefing/Summary/SN04223#fullreport

 

[6] https://beta.gov.wales/sites/default/files/2017-01/30683%20Securing%20Wales%C2%B9%20Future_WELSH_WEB.pdf

[7] https://onlinelibrary.wiley.com/doi/pdf/10.1111/1475-5890.12174

[8] http://www.demos.co.uk/files/Entrepreneurial_State_-_web.pdf

[9] http://www.whatworksgrowth.org/public/files/Policy_Reviews/15-10-20-Innovation-Summary.pdf

[10] Brooks, R. (2014) The Great Tax Robbery, One World Publications, Llundain.

[11]https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/752144/RandD_web.pdf

[12] Marino, M. Huillery, S., Parrotta, P. a Sala, D. (2016) “Additionality or crowding-out? An overall evaluation of public R&D subsidy on private R&D expenditure,” Research Policy Tachwedd 2016, Cyfrol. 45, Rhif 9, tud1715-1730.

[13] https://www.gov.uk/government/statistics/research-and-development-by-foreign-and-domestic-ownership-2016

[14] https://www.timeshighereducation.com/blog/he-and-research-bill-changes-must-respect-national-differences

[15] https://assets.publishin-service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/752201/Budget_2018_print.pdf.

[16] https://beta.llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2018-02/170620_consultation-cy.pdf

[17] http://gw4.ac.uk/sww-sia/

[18] https://www.ukri.org/innovation/industrial-strategy-challenge-fund/

[19] https://lshubwales.com/cy

[20] https://ukdri.ac.uk

[21] https://gov.wales/docs/det/publications/cynllun-strategol-y-cymoedd-technegol.pdf

[22] https://gov.wales/newsroom/culture-tourism-sport/2018/180712-creative-wales-to-build-on-successes-of-cadw-and-visit-wales/?skip=1&lang=cy

[23] https://csa.catapult.org.uk/

[24] http://specific.eu.com/cy/

[25] https://www.gov.uk/government/news/national-thermal-hydraulic-facility-consultation

[26] https://llyw.cymru/docs/det/publications/171213-economic-action-plan-cy.pdf

[27] https://www.gov.uk/government/news/new-industrial-strategy-council-meets-as-membership-announced